50.35 SGD
Member Price
45.32
Welsh

Product Description

Ganed Anne yn Frankfurt am Main, Yr Almaen, yn 1929, ond oherwydd casineb cynyddol y Natsïaid tuag at Iddewon, penderfynodd Otto ac Edith Frank, rhieni Anne a’i chwaer Margot, ffoi i Amsterdam, Yr Iseldiroedd, yn 1933.   Yna, ar 6 Gorffennaf 1942, wedi i’r Natsïaid oresgyn y wlad, cuddiodd y teulu mewn rhandy dirgel uwchben swyddfa Otto Frank yng nghanol y ddinas. Ychydig wythnosau yn gynt, ar ei phen-blwydd yn 13 mlwydd oed, derbyniodd Anne ddyddiadur fel anrheg a chychwynodd ysgrifennu’i dyddiadur byd enwog.   Trwy dudalennau’r gyfrol hon, a addaswyd i’r Gymraeg gan Eigra Lewis Roberts, down i adnabod yr Anne Frank go iawn, a rhannu’r gobeithion a’r ofnau, y profiadau a’r emosiynau, a gofnodwyd ganddi yn ystod y ddwy flynedd y bu hi a’i theulu’n cuddio rhag y Natsïaid.

The Welsh-language edition of the Diary of Anne Frank

Available to Order

Usually dispatches within 3-4 weeks

While every attempt has been made to ensure stock availability, occasionally we may run out of stock at our stores.

Free domestic shipping on orders over 50.00SGD

Discount is applied at checkout.

Recently Viewed Items

Related Products